Sgwrs y Mis: Hydref
Darlith gan Dr Helen Williams-Ellis am ei chyfrol am Catrin o Ferain.
Pris: Am Ddim
Clwb Dyfeiswyr - Lego Spike
*Trwy Gyfrwng y Gymraeg* Paratowch i adeiladu, codio a chreu gyda LEGO® SPIKE! Ymunwch â’n Clwb Dyfeiswyr cyffrous, sydd wedi’i gynllunio’n arbennig ar gyfer plant yn flynyddoed 3-6. Gall dyfeiswyr archwilio creadigrwydd, datrys problemau a thechnoleg drwy weithgareddau ymarferol a hwyliog. Bydd y plant yn cael cyfle i adeiladu eu creadigaethau eu hunain, arbrofi gyda chodio syml a dod â’u syniadau’n fyw mewn amgylchedd cyfeillgar a llawn hwyl. Ymunwch â ni ddydd Sadwrn 24 Hydref 2026, 10am–12pm yn Ysgol Sant Baruc – dim ond £3 y plentyn!
Pris: £3
Bwrlwm Hydref 2026
Pris: Am Ddim
Gig: Shwmae y Fro
Miwsig go iawn, egni go iawn, a thocynnau bargen o flaen llaw ar gael nawr.
Pris: £4
Clwb Dawns a Drama
Ymunwch â ni am 6 wythnos o hwyl, dawns, drama a chreadigrwydd! Cyfle i fagu hyder, gwneud ffrindiau newydd a defnyddio'r Gymraeg mewn ffordd hwyliog a chefnogol.
Join us for 6 weeks of fun, dance, drama and creativity! Build confidence, make new friends and enjoy using Welsh in a fun and supportive environment.
Pris: £45
Ymweliad: Arddangosfa 'Ffasiwn'
Ymweliad â'r arddangosfa ffotograffiaeth yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Pris: Am Ddim
Sesiynau Sgwrsio yn y Fro
Cyfle i sgwrsio mewn sesiynau anffurfiol gyda Dysgu Cymraeg y Fro.
Pris: Am Ddim
Chwilio am Swydd? Bwrlwm 2026
Mae Bwrlwm yn gynllun chwarae mynediad agored sy’n cael ei gynnal ym Mro Morgannwg yn ystod pob gwyliau ysgol. Ein nod yw darparu profiad chwarae diogel, cynhwysol ac ysgogol i blant a phobl ifanc, gan gefnogi eu datblygiad drwy chwarae rhydd ac arloesol.
Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â’n tîm. Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio gyda phlant ac angerdd dros chwarae, dyma gyfle gwerthfawr i gyfrannu’n gadarnhaol at les a datblygiad plant yn eich ardal leol.
Fel aelod o dîm Bwrlwm, byddwch yn rhan o raglen fywiog sy’n hyrwyddo chwarae o safon uchel, cydweithio tîm, ac ymrwymiad i sicrhau amgylchedd diogel a chynhwysol i bob plentyn.
Pris: Am Ddim
Gig: Steve Eaves a Rhai Pobl
DYDDIAD NEWYDD!
Gig unigryw gyda Steve Eaves a Rhai Pobl gyda Melda Lois
Pris: £18
Menter Bro Morgannwg yn cyflwyno...Sonant
Fel rhan o Ŵyl Grace Williams, bydd Siân James a Sioned Webb, yn dod a’u steil unigryw o gerddoriaeth byw wrth berfformio deuawdau piano prydferth ac agos atoch yn y Barri.
Bydd y noson yn cynnwys trafodaeth ar ddylanwad rhai o gyfansoddwyr benywaidd Cymru. Dyma noson egscliwsif a nifer cyfyng o docynnau’n unig ar gael yn Siambr y Cyngor, Neuadd Tref y Barri.
Pris: £10