Pobl Ifanc
Gweithgareddau a gigs yn y gymuned.
Ymunwch â ni yn awyrgylch croesawgar The Bakehouse, Llanilltud Fawr, i glywed am waith a llwyddiannau’r Fenter dros y flwyddyn ddiwethaf, dysgu am rai o’n cynlluniau cyffrous ar gyfer y dyfodol, a mwynhau lluniaeth ysgafn wedyn.
RSVP - post@menterbromorgannwg.cymru
Croeso cynnes i bawb!
Pris: Am Ddim
Mae Bwrlwm yn gynllun chwarae mynediad agored sy’n cael ei gynnal ym Mro Morgannwg yn ystod pob gwyliau ysgol. Ein nod yw darparu profiad chwarae diogel, cynhwysol ac ysgogol i blant a phobl ifanc, gan gefnogi eu datblygiad drwy chwarae rhydd ac arloesol.
Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â’n tîm. Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio gyda phlant ac angerdd dros chwarae, dyma gyfle gwerthfawr i gyfrannu’n gadarnhaol at les a datblygiad plant yn eich ardal leol.
Fel aelod o dîm Bwrlwm, byddwch yn rhan o raglen fywiog sy’n hyrwyddo chwarae o safon uchel, cydweithio tîm, ac ymrwymiad i sicrhau amgylchedd diogel a chynhwysol i bob plentyn.
Pris: Am Ddim