Gweithdy Gwyddoniaeth Sparklab 27.11.25

 Dewch i fwynhau antur wyddonol llawn hwyl! Ymunwch â ni ar gyfer gweithdy Nadoligaidd SparkLabs lle bydd plant yn cymryd rhan mewn arbrofion cyffrous, heriau creadigol, a darganfyddiadau hudolus – gyda themâu'r Nadolig. Cymysgedd perffaith o ddysgu a hwyl i ysbrydoli chwilfrydedd dros yr ŵyl!

Pris: £12

Noson Nadoligaidd i'r teulu

Noson llawn cerddoriaeth a chanu cymunedol Nadoligaidd i gyfeiliant ensemble pres, perfformiadau gan ysgolion lleol (i’w cyhoeddi’n fuan), a Mei Gwynedd yn westai arbennig.

Ysbryd yr Ŵyl i’r teulu gyfan.

Pris: £3 | Pris Consesiynau: Am Ddim

Chwilio am Swydd? Bwrlwm 2026

Mae Bwrlwm yn gynllun chwarae mynediad agored sy’n cael ei gynnal ym Mro Morgannwg yn ystod pob gwyliau ysgol. Ein nod yw darparu profiad chwarae diogel, cynhwysol ac ysgogol i blant a phobl ifanc, gan gefnogi eu datblygiad drwy chwarae rhydd ac arloesol.

Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â’n tîm. Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio gyda phlant ac angerdd dros chwarae, dyma gyfle gwerthfawr i gyfrannu’n gadarnhaol at les a datblygiad plant yn eich ardal leol.

Fel aelod o dîm Bwrlwm, byddwch yn rhan o raglen fywiog sy’n hyrwyddo chwarae o safon uchel, cydweithio tîm, ac ymrwymiad i sicrhau amgylchedd diogel a chynhwysol i bob plentyn.

 

Pris: Am Ddim