Oedolion
Gweithgareddau yn y gymuned, cyrsiau a sesiynau ar-lein.
Ynof Mae Cymru'n Un: trafod rhai o gerddi TH Parry-Williams, Waldo, Gwenallt a Saunders Lewis
Pris: £20
Cyfle i ddysgwyr fynd o amgylch busnesau yn y Bontfaen lle mae siaradwyr Cymraeg! Cyfle gwych hefyd i gyfathrebu a chymdeithasu trwy’r Gymraeg – perffaith i ddysgwyr!
Cwrdd yn 96 Degrees am 10 o'r gloch.
Old Masons Yard Penny Lane, Cowbridge CF71 7EG
Pris: £Am Ddim
Noson llawn cerddoriaeth a chanu cymunedol Nadoligaidd i gyfeiliant ensemble pres, perfformiadau gan ysgolion lleol (i’w cyhoeddi’n fuan), a Mei Gwynedd yn westai arbennig.
Ysbryd yr Ŵyl i’r teulu gyfan.
Pris: £3 | Pris Consesiynau: Am Ddim
Mae Bwrlwm yn gynllun chwarae mynediad agored sy’n cael ei gynnal ym Mro Morgannwg yn ystod pob gwyliau ysgol. Ein nod yw darparu profiad chwarae diogel, cynhwysol ac ysgogol i blant a phobl ifanc, gan gefnogi eu datblygiad drwy chwarae rhydd ac arloesol.
Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â’n tîm. Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio gyda phlant ac angerdd dros chwarae, dyma gyfle gwerthfawr i gyfrannu’n gadarnhaol at les a datblygiad plant yn eich ardal leol.
Fel aelod o dîm Bwrlwm, byddwch yn rhan o raglen fywiog sy’n hyrwyddo chwarae o safon uchel, cydweithio tîm, ac ymrwymiad i sicrhau amgylchedd diogel a chynhwysol i bob plentyn.
Pris: Am Ddim