Pris: Am Ddim
Pabell dan do wedi ei neilltuo’n arbennig ar gyfer cyflwyniadau a gweithdai plant ac oedolion o bob math.
11:15 - Bwrlwm Bach y Fro
Cyfle i flasu gweithgraeddau Cynllun Chwarae Gwyliau Menter Bro Morgannwg.
12:15 - Mewn Cymeriad yn cyflwyno…Barti Ddu
Perfformiad bywiog gan y cwmni theatr boblogaidd sy’n gyfrifol am lwyfannu sioeau am gymeriadau a straeon o hanes Cymru. Dere draw i fwynhau sioe Barti Ddu yng nghwmni'r actor Gethin Roberts.
13:00 - Pryd ar Dafod
Bydd Ianto a Dewi, sy’n gyfrifol am y podlediad poblogaidd sy’n trafod tri hoff bryd bwyd rhai o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru yn recordio rhifyn arbennig yng nghwmni Caryl Parry Jones.
14:00 - Gweithdy Llyfrau
Yr awdur a’r cyfarwyddwr llawrydd, Rolant Tomos, yn arwain gweithdy anffurfiol ar strwythuro straeon. Bydd cyfle i bawb ymuno yn yr hwyl.
15:00 - Holi ac Ateb
Y DJ Mirain Iwerydd yn holi Aleighcia Scott, y gantores o dras Gymreig a Jamaicaidd, un o wynebau cyfres boblogaidd Y Llais, ac un o brif berfformwyr Llwyfan y Traeth eleni.
15:45 - Beth yw bod yn siaradwr newydd?
Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn arwain trafodaeth ar bleserau ac heriau dysgu’r iaith. Sesiwn dan nawdd Dysgu Cymraeg y Fro.
16:30 - ClwbNi
ClwbNi gan Menter Caerdydd yw criw bywiog o oedolion ifanc gydag anableddau sy’n dod at ei gilydd i rannu eu cariad at gerddoriaeth Gymraeg. Mae eu perfformiadau’n llawn egni ac unigryw, yn defnyddio cerddoriaeth fel ffordd o fynegi eu hunain ac adeiladu hyder.