Pris: £10
Bydd 2027 yn nodi hanner canrif ers marwolaeth y cyfansoddwr Cymreig nodedig, Grace Williams. Ganwyd a magwyd Grace yn y Barri, a dychwelodd yno ym 1947 lle parhaodd i gyfansoddi, a’i hysbrydoli’n aml gan yr arfordir yr oedd hi’n ei garu.
Mae Gŵyl Gelfyddydau’r Barri, Art Central Friends, GlastonBARRY a Menter Iaith Bro Morgannwg yn trefnu gŵyl ym mis Chwefror 2027 i ddathlu ei bywyd a’i gwaith.
Drwy gyfres o ddigwyddiadau a chyngherddau o gerddoriaeth draddodiadol a chyfoes, y nod yw dod a’i cherddoriaeth i sylw'r gynulleidfa ehangaf bosibl. Gobeithir hefyd y bydd yr ŵyl, drwy stori Grace, yn ysbrydoli cenedlaethau newydd o gerddorion yn y dref.
Rhagor o fanylion am yr ŵyl - https://gracewilliamsfestival.com/
Provisional Spaces Available: 40